Hafan

Mae Gwerin.tech yn helpu pobol i ryngweithio â llwyfannau cymunedol DIY fel OpenStreetMap.

Mae’r wefan hon yn darparu lefelau amrywiol o hygyrchedd i brosiectau mapio cymunedol sydd wedi defnyddio OpenStreetMap, Wicimedia a ‘thechnolegau rhyddhad’ eraill. Rydym yn annog i chi feddwl am eich cymuned eich hunain a’r hyn sydd eu hangen, a sgwrsio gyda ni am ddechrau prosiectau mapio yn eich cymuned.

Rydym yn cael ein hysbrydoli gan fudiadau megis Missing Maps, ac ein nod yw i’ch cefnogi i greu mapiau cymunedol eich hunain.

Ein prosiectau

Mapio Lleisiau’r Tir

Nod ein prosiect Mapio Lleisiau’r Tir yw creu gofodau Cymraeg, trwy ail-fapio enwau lleoedd a gollwyd a chreu archif gydweithredol gymunedol o arferion gwledig, hanes diwyllianol yr ucheldir ac atgofion cymunedol byw.

Beth ydych chi’n mynd i fapio?