Mae map cyntaf Mapio Lleisiau’r Tir yn dechrau datblygu. Mae’n ddrafft. Nid yw unrhyw fap yn ddiniwed, a chydag OpenStreetMap nid yw unrhyw fap yn orffenedig. Fel Wicipedia, mae’n gydweithrediad cyfranogol parhaus rhwng y gymuned â’r byd allanol. Mae’n amlwg yn unochrog felly mae’n ‘dad-drefedigaethu’r’ chwedl o un gwirionedd unigol.
Rydym yn darganfod bod mapiau dadansoddol ynglŷn ag anghenion dynol a hygyrchedd/mynediad o fewn y cymunedau hyn yn hynod ddibwrpas: mae mapio lle nad oes unrhyw fysiau, toiledau cyhoeddus, siopau, clinigau ac ysgolion yn creu metrigau eithafol – nid oes carffosiaeth o’r prif gyflenwad, nwy o’r prif gyflenwad ayb. Mewn ardaloedd lle nad oes diwylliant o rannu ceir, mae’r ffaith fod 3 bws rhedeg bob wythnos yn golygu bod 100% o’r boblogaeth yn dibynnu ar geir. Mae prinder o unrhyw doiledau cyhoeddus mewn pentrefi yn creu haen ddata sy’n hollol goch. Felly mae mapiau mwy defnyddiol yn dechrau datblygu sydd yn arddangos set o ddangosyddion (indicators), blaenoriaethau arbennig sydd wedi’u diffinio gan gymunedau.
Mae mapiau lles cyffredinol fel y rhain yn fodd o ddadansoddi anghenion dynol a hygyrchedd / mynediad yn ardaloedd yr ucheldir sydd yn diodde o ffactorau ynysigrwydd gwledig. Ond mae rhain yn hyfyd yn arbenigol ac yn dangos cymeriad neilltuol cymuned trwy ei dangosydd hunan-etholdeig yn hytrach na chael ei diffinio gan dwristiaeth/sefydliadau anghysbell ac allanol.
Cliciwch ar y map ac archwiliwch, i weld sut mae’r gorffennol yn rhoi cyd-destun i’r presennol, a lle gall stori ansoddol arddangos safbwynt y gellir ei ddefnyddio i wneud mesuriadau mesurol. Gall mapiau o brofiadau byw fynegi ond hefyd ddathlu bywyd cymuned sydd, yn hanesyddol, heb fod ag adnoddau digonol o ran pethau fel trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae mapiau yn gallu dangos pellter o wasanaethau, amlygu newidiadau i enwau lleoedd ( newidiadau diwylliannol), a delweddu diboblogi gwledig wrth iddo ddigwydd (e. e. ffermydd sydd yn troi’n adfeilion o fewn atgof byw). Mynegir gwelededd cymunedau trwy ddyfeisgarwch, mecanweithiau ymdopi, a’r posibilrwydd o hunan-drefnu eu hynni hydro micro, mentrau bach ac adfywiad sgiliau technegol. Yn bennaf oll, mae mapiau yn medru creu cais ar gyfer dosbarthiad adnoddau megis cymorth systemig a gweinyddol ar gyfer cymunedau sydd ynsicr yn gallu hunan-drefnu eu lles cyffredinol. Mae llawer yn cofio’n glir y cyfnod pan oedd trydan cymunedol yn arferol, roedd trafnidiaeth gymunedol yn ddibynadwy a phan oedd pob person yn y gymuned yn cymryd rhan – ymlaen!
Gadael Ymateb