Mapathon Nadolig Cymuned Bwyd Lleol Ynys Môn

 

Menter Mon Food Partners Mapathon

Roedd y gweithdy olaf “Partneriaid Fwyd
Menter Mon” o 2025 wedi ein hannog i feddwl am dlodi mwyd ar Ynys Môn dros y Nadolig.

Mae ein tyfwyr, cynhyrchwyr, a gwerthwyr yn mapio eu rhwydweithiau cyflenwi a dosbarthu eu hunain, ac yn optimeiddio eu brandiau yn leol iawn, gan cyfathrebu diddordebau cyfoethog ac amrywiol ein busnesu fwyd (e.e. map o flodau gwenyn mêl ac ardaloedd peillio).

Ond gall y mapiau hyn taflu goleuni ar wybodaeth sy’n berthnasol i bobol anghenus hefyd trwy fapio ffactorau o allgau cymdeithasol ac argaeledd a fforddiadwyedd fwyd. Yna gellir defnyddio’r mapiau hyn yn weithredol i gysylltu ffynhonnellau o bwyd-leol, rhwydweithiau argyfwng, ac adnoddau bwyd dros ben – gan greu gweledigaeth gydweithredol o gydraddoldeb bwyd.

“All the bus stops are the red pins, and the heat map is where we deliver emergency parcels over the last 12 months” dywedir Scott, of Banc Bwyd Môn.

“I am involved with the food bank and tackling destitution together… I have managed to locate all our external partners that offer support advice and aid on the island and refer in to us at the food bank (green icons)… ”

Mae map “supply-and-demand” Scott yn dangos sut mae’r anghenion o gymorth mwyd i’w weld fwyaf yn fannau sydd yn bell o lwybrau cludiant cyhoeddus.

Mae fe’n esbonio:
“Key points for the project are the rural areas and the density of emergency aid possibly due to no public transport and lack of shops… paying a higher price due to convenience… that data is so important to provide basic food: and alternatives for those who cannot get to supermarkets and choice…”

Mae map Scott yn ymddangos lleoliadau bwyd ffres a busnesau lleol wrth ymyl gwybodaeth ynglŷn â mynediad i fwyd – cynwysoldeb, fforddiadwyedd a chydraddoldeb. Mewn ychydig o cliciau, mae straeon grymus yn dod i’r amlwg, o gwmpas effaith cludiant cyhoeddus ar ‘ynysu bwyd’, a’r angen i fapio rhwydweithiau bwyd anffurfiol mewn ffordd cynhwysol sy’n eiddo i’r gymuned.

[Darllenwch fwy am fapio ‘Food Desert’ OpenStreetMap yng Nghymru yma:
https://lnkd.in/eagtcM6A]

Nodiadau

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *