Mapio Lleisiau’r Tir

Mae MAPIOLLT (Mapio Lleisiau’r Tir) yn brosiect i ddangos nerth OSM fel offeryn ar gyfer defnydd bob dydd i bobl.

Rydym yn bwriadu helpu cymunedau i rannu eu diddordebau a chysylltu â’i gilydd trwy hanes cymunedol, i godi ymwybyddiaeth am rwydweithiau adnoddau ac asedau cymunedol, ac atgyfnerthu hanes yn yr iaith Gymraeg yn ein hucheldiroedd. Mae’n fap sy’n eiddo i’r gymuned ac rydym yn ddiolchgar i Gronfa Her Arfor am ariannu hyfforddiant busnesau, ffermydd a grwpiau cymunedol lleol eraill.

Prosiect mapio cymunedol ardaloedd dyffrynnoedd Teifi, Ystwyth a Thywi

Mae’r prosiect hwn yn archwilio atebion arloesol i’r her o ddiboblogi gwledig. Trwy hyfforddi’r gymuned leol sut i fapio, gobaith Mapio Lleisiau’r Tir yw rhoi’r dulliau a’r gallu i chi greu eich mapiau eich hun. Nod y map cydweithredol hwn yw cefnogi defnydd ac amlygrwydd y Gymraeg, cyfathrebu blaenoriaethau a phryderon lleol a dathlu rhinweddau unigryw’r ardal.


Map “DIY” o orchudd coed, enwau caeau, pwyntiau o ddiddordeb fferm a theulu: Will Isaacs, Fferm Geufron

Cymryd rhan

Mapio o bell: Gallwch gyfrannu at OpenStreetMap yn y maes neu o’ch cartref. Mae mapio o bell yn ffordd o wella’r manylder ar y map sylfaenol – defnyddiwch eich gwybodaeth leol a dulliau mapio o bell ar gyfer eich ardal a’ch map cymunedol lleol. Mae mapio/arolygu maes yn helpu i wirio data ac ychwanegu rhagor o fanylion.

Noddwyr a chefnogwyr

OpenStreetMap UKHer ArforICY Ieuenctid Cambria YouthMissing MapsMid Wales Mine AdventuresLlyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales

Rhagor o gofnodion